
Amdanom Ni

Croeso
Yng Nghartref Gofal Dolwar, mae popeth a wnawn yn canolbwyntio ar y bobl sy'n byw yma.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal proffesiynol gyda charedigrwydd, tosturi a pharch, gan helpu pob preswylydd i fyw gydag urddas, cynnal ei annibyniaeth a mwynhau pob diwrnod mewn cartref diogel, cyfforddus a chroesawgar.
Cartref Cartrefol
Mae Dolwar yn gartref croesawgar ar gyfer hyd at 17 o breswylwyr, gan gynnig ystafelloedd cyfforddus a mannau cymunedol deniadol lle gall cyfeillgarwch ffynnu.
Mae ein cyfleusterau'n cynnwys:
-
17 ystafell wely gyfforddus, gan gynnwys ystafelloedd en-suite
-
Lolfeydd eang a chysurus
-
Lolfa haul ac ystafell fwyta olau a chroesawgar
-
Ardaloedd tawel ar gyfer ymlacio neu dreulio amser gydag ymwelwyr
-
Cyfleusterau ymolchi a chawod hygyrch
-
Lifft i'r lloriau uchaf
-
Gardd a phatio hygyrch i'w mwynhau drwy'r gwanwyn a'r haf.
Anogir preswylwyr i ddod â dodrefn bach, lluniau ac eitemau personol gyda nhw er mwyn gwneud eu hystafell yn gyfarwydd ac yn gartrefol.


Tim Gofal Proffesiynol
Mae ein tîm rheoli profiadol a'n gofalwyr ymroddedig yn ymfalchïo mewn darparu'r safon uchaf o ofal.
Mae llawer o'n staff wedi bod yn Dolwar ers blynyddoedd, gan feithrin perthynas agos gyda'r preswylwyr a'u teuluoedd. Mae pob aelod o'r tîm gofal wedi'i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn derbyn hyfforddiant parhaus er mwyn sicrhau gofal diogel, proffesiynol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Rydym yn cymryd amser i ddod i adnabod pob preswylydd, gan ddeall beth sy'n bwysig iddynt a chefnogi eu dewisiadau, eu trefn ddyddiol a'u hannibyniaeth.
Bywyd Dolwar
Mae bywyd yn Nolwar yn ymwneud â llawer mwy na derbyn gofal.
Mae preswylwyr yn gallu mwynhau amrywiaeth o weithgareddau sydd wedi'u cynllunio i weddu i wahanol ddiddordebau a galluoedd, gan gynnwys:
-
Celf a chrefft
-
Bingo cerddorol a chwisiau
-
Sesiynau pobi
-
Gemau bwrdd
-
Ymarferion cadair
-
Canu ac adloniant
-
Ymweliadau gan blant ysgol lleol
-
Dathliadau tymhorol a phartïon pen-blwydd
-
Garddio a gweithgareddau awyr agored
-
Gwasanaethau dwyieithog a chanu emynau i'r rhai sy'n dymuno cymryd rhan.
Mae cymryd rhan yn ddewis, ac rydym yn cefnogi pob preswylydd i dreulio ei amser fel y mae'n dymuno.


Yr Awyr Agored
Mae ein gardd a'n patio hygyrch yn cynnig lle tawel i ymlacio, cymdeithasu a mwynhau'r awyr iach.
Yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf, gall preswylwyr dreulio amser yn yr awyr agored, mwynhau garddio, gweithgareddau natur neu de prynhawn mewn amgylchedd diogel a heddychlon.
Yn rhan o'r gymuned
Mae bod yn rhan o'r gymuned leol yn rhan bwysig o fywyd yn Nolwar.
Rydym yn mwynhau perthynas agos â Llanbedrog, gan groesawu ymweliadau gan blant Ysgol Llanbedrog, cydweithio'n agos â gweithwyr iechyd proffesiynol lleol, ac annog preswylwyr i gadw mewn cysylltiad â bywyd y gymuned lle bo hynny'n bosibl.
Rydym hefyd yn falch o ddarparu gwasanaeth dwyieithog drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.


Teuluoedd
Rydym yn deall pa mor bwysig yw teulu a ffrindiau.
Mae ymwelwyr yn cael croeso cynnes ar unrhyw adeg, ac rydym yn annog teuluoedd i barhau i chwarae rhan weithredol ym mywydau a gofal eu hanwyliaid. Mae plant ac anifeiliaid anwes sy'n ymddwyn yn dda hefyd yn cael croeso, gan gyfrannu at yr awyrgylch cynnes a chartrefol sy'n gwneud Dolwar yn lle arbennig.